28/06/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 Mehefin 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 28 Mehefin 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiadau diweddaraf ar y Parc Awyrofod arfaethedig yn Sain Tathan. (WAQ56132)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar 1 Rhagfyr 2009. Mae'r cynlluniau'n rhagweld datblygiad fesul cam dros gyfnod o ugain mlynedd yn unol â galw'r farchnad. Mae ein gwaith o farchnata'r safle, yn seiliedig ar botensial cyffrous y cyfleusterau a'r sylfaen sgiliau cadarn, wedi arwain at waith datblygu mewn perthynas â sawl buddsoddiad posibl.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sut y bydd y penderfyniad gan yr Adran Drafnidiaeth i ymgynghori ar ddyfodol masnachfreintiau rheilffyrdd yn effeithio ar Gymru. (WAQ56133)

Rhoddwyd ateb ar 06 Gorffennaf 2010

Ni fydd yr ymgynghoriad ar ddyfodol polisi masnachfraint rheilffyrdd yn cael effaith uniongyrchol ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau am fod wyth mlynedd arall cyn iddo ddod i ben yn 2018.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd rhan yn adolygiad y DU cyfan am ei bod yn gyd-lofnodwr ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau ac yn ymgynghorai statudol ar gyfer manylebau masnachfreintiau eraill sy'n gweithredu yng Nghymru. Byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw bolisi newydd yn adlewyrchu buddiannau Cymru.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am unrhyw newidiadau i’r dangosyddion, i’r pwysoliadau ac i ddyraniad y Grant Cefnogi Refeniw rhwng awdurdodau lleol ers blwyddyn cyllideb 2006/7. (WAQ56131)

Rhoddwyd ateb ar 07 Gorffennaf 2010

Caiff manylion am y dangosyddion, y pwysoliadau a dyrannu'r Grant Cefnogi Refeniw ledled yr awdurdodau lleol eu cyhoeddi bob blwyddyn yn y cyhoeddiad "Welsh Local Government Revenue Settlement - Background Information for Standard Spending Assessments” a elwir hefyd yn "Llyfr Gwyrdd”. Mae'r cyhoeddiadau hyn ar gael ar gyfer pob blwyddyn o 2005/06 ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy ddilyn y ddolen isod:

 http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/?lang=cy