28/08/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Awst 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Awst 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a ThrafnidiaethCwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen a bennwyd ar gyfer gwaith yr ymgynghorwyr sy’n llunio opsiynau i wella mynediad trafnidiaeth i faes awyr rhyngwladol Caerdydd ac i’r datblygiad METRIX yn Sain Tathan? (WAQ50303)Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Rydym yn edrych ar opsiynau i wella mynediad at faes awyr rhyngwladol Caerdydd a rhan ddeheuol Bro Morgannwg. Yn unol â rhaglen yr ymgynghorydd, cynhelir arddangosfeydd/gweithdai cyhoeddus yr hydref hwn, ymgynghoriad cyhoeddus yr haf nesaf, a gwneir cyhoeddiad ar yr opsiwn(au) dewisol erbyn diwedd 2008.Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i greu canolfan trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhorth Caerdydd ar gyfer traffig sy’n teithio i Gaerdydd o’r dwyrain a fydd yn debyg i’r hyn sydd yn yr arfaeth ar gyfer cyffordd 33 ar yr M4? (WAQ50304)Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid oes unrhyw gynlluniau gennym i greu canolfan trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhorth Caerdydd.Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch lliniaru anhrefn gymdeithasol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus?(WAQ50305)Y Dirprwy Brif Weinidog: Ysgrifennais atoch a chaiff copi o’r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi £11 miliwn ym mhrosiect y 'Gull’, sef drôn i’w ddefnyddio ar fôr, ar dir ac yn yr awyr?(WAQ50306)Y Dirprwy Brif Weinidog: Nid ydym yn buddsoddi £11 miliwn yn yr awyren fôr hon. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, cyrff rhanbarthol a diwydiannol a’r byd academaidd, yn bartner yn rhaglen Ymchwil a Datblygu ASTRAEA (Autonomous Systems Technology Related Airborne Evaluation and Assessment) ar dechnolegau di-griw. Fel y cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2006, yr ydym yn rhoi tua £3 miliwn dros dair blynedd i weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sy’n edrych ar wahanol agweddau ar weithredu systemau di-griw. Mae un prosiect o’r fath yn cynnwys un o bartneriaid diwydiant yn ASTRAEA, Flight Refuelling Limited, a fydd yn defnyddio awyren fôr Gull i gyflawni treialon hedfan a thechnoleg cysylltiedig.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Mike German (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen i gau pwll nofio Blaenafon ar yr her adfywio, yn enwedig ei nod o annog mwy o bobl i ymgymryd â gweithgarwch corfforol, a hynny mewn cymunedau difreintiedig yn arbennig?(WAQ50297)Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwbl ymrwymedig i greu cyfleoedd a fydd yn gwella lefelau gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Dros y tair blynedd diwethaf, buddsoddwyd dros £1.5 miliwn gan ein Cyngor Chwaraeon Cymru yn ardal Tor-faen mewn amrywiaeth o brosiectau sy’n cefnogi cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.Gwnaed y penderfyniad i gau pwll nofio Blaenafon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen o ganlyniad i’r difrod a achoswyd i’r ganolfan hamdden mewn storm ac wrth gwrs mae’n anffodus. Fodd bynnag, deallaf fod y cyngor wedi cynnig cydweithio â thrigolion lleol i edrych ar ffyrdd amgen i ddiwallu anghenion y gymuned.Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaeth y Gweinidog ymateb i’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi, 'Unclaimed assets distribution mechanism: a consultation’, ac os felly, pryd anfonwyd ei ymateb?(WAQ50308)Rhodri Glyn Thomas: Ymatebodd swyddogion ar fy rhan ar 6 Awst 2007, gan ailadrodd sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn cyhoeddi’r papur ymgynghori.