Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 29 Mawrth 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y polisi ynghylch defnyddio deunyddiau ffordd i leddfu llygredd sŵn. (WAQ55774)
Rhoddwyd
ateb ar 19 Ebrill 2010
Ein polisi yw disodli deunydd arwyneb asffalt wedi'i rholio'n boeth traddodiadol ag arwynebedd tenau sŵn isel pan fydd yn cyrraedd diwedd ei fywyd defnyddiol.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y cyhoeddir Strategaeth Tlodi Tanwydd Cymru. (WAQ55773)
Rhoddwyd
ateb ar 19 Ebrill 2010
Caiff crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd gan yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Tlodi Tanwydd ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Ebrill. Caiff y Strategaeth Tlodi Tanwydd terfynol ei chyhoeddi cyn toriad yr haf.