29/06/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2012
i’w hateb ar 29 Mehefin 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad risg ynghylch y cynlluniau arfaethedig i symud y ganolfan llongau tanfor niwclear yn Faslane i Aberdaugleddau. (WAQ60674)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â symud y fflyd niwclear trident i Aberdaugleddau. (WAQ60675)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ar lefel y Cabinet, ynghylch y cynlluniau arfaethedig i symud y ganolfan llongau tanfor niwclear i Aberdaugleddau. (WAQ60676)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r digwyddiadau chwaraeon y bydd Gweinidogion, yn cynnwys ef ei hun, yn eu mynychu yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain yr haf hwn. (WAQ60685)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o’r holl ddigwyddiadau y bydd Gweinidogion, yn cynnwys ef ei hun, yn eu mynychu yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain, gan gynnwys dyddiad, lleoliad a deilliannau arfaethedig pob digwyddiad. (WAQ60686)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau sawl cais y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y barnwyd ‘nad oedd modd eu datrys’, gan roi ffigurau ar gyfer pob un o’r pedair blynedd diwethaf. (WAQ60687)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ60524, sawl aelod o staff o adran y Gweinidog fydd yn cael eu neilltuo i gynorthwyo’r byrddau ardaloedd menter a beth yw’r amcangyfrif o’r gost flynyddol i’r byrddau o gyflawni’r gwaith hwn. (WAQ60677)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau neu gyfarfodydd y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r aelod cabinet yng nghyngor Caerdydd dros Gyllid, Busnes a'r Economi Leol ynghylch prosiect Ardal Busnes Caerdydd, ac a yw’n rhagweld y bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni’r prosiect yn newid yn sgîl yr etholiadau llywodraeth leol diweddar. (WAQ60678)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl arddangosfeydd a ffeiriau masnach rhyngwladol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod iddynt dros y pedair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ60679)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu beth oedd y gost i Lywodraeth Cymru o fynd i arddangosfeydd a ffeiriau masnach rhyngwladol dros y pedair blynedd ariannol diwethaf, gan roi ffigurau ar gyfer a) cyfanswm y gost flynyddol ym mhob blwyddyn ariannol a b) cost pob digwyddiad unigol. (WAQ60680)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ddigwyddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal yn Llundain yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd i ddenu cyfleoedd busnes a mewnfuddsoddiad i Gymru, ac a wnaiff y Gweinidog nodi dyddiad, lleoliad a deilliannau arfaethedig pob digwyddiad. (WAQ60681)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Llundain, a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o gostau staffio’r swyddfa, gan ddadansoddi’r ffigurau fesul graddfa a band cyflog. (WAQ60682)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynigion diwygiedig y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU o ran trefniadau ar gyfer rhagor o lwfansau cyfalaf mewn ardaloedd menter yng Nghymru. (WAQ60701)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ60517, a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi datganiad yn egluro’r codiad sylweddol mewn ffioedd prisio yn ymwneud â TB Buchol dros y 5 mlynedd ariannol diwethaf. (WAQ60683)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth oedd cyfanswm cost sefydlu swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Llundain. (WAQ60684)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y posibilrwydd y caiff eculizumab ei ddefnyddio i drin y clefyd prin a elwir yn Syndrom Uremic Hemolytic Annodweddiadol. (WAQ60673)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl llawdriniaeth sydd wedi’u gwneud o dan GIG Cymru ers i Lywodraeth Cymru benderfynu tynnu mewnblaniadau bronnau PIP, ac o’r rhain, sawl un ohonynt na chawsant eu gwneud yn wreiddiol o dan GIG Cymru. (WAQ60688)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r gost i GIG Cymru o dynnu mewnblaniadau bronnau PIP, fesul a) y gost gyffredinol hyd yma a b) y gost hyd yma o ddadwneud llawdriniaethau na wnaethpwyd yn wreiddiol o dan y GIG. (WAQ60689)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae GIG Cymru wedi’i wario ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff nyrsio ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer. (WAQ60702)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl gwaith yn y 12 mis diwethaf y mae unedau mamolaeth ac unedau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai yng Nghymru wedi bod ar gau i dderbyn cleifion newydd a chleifion nad ydynt yn achosion brys, a hynny fesul pob ysbyty unigol.  (WAQ60703)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae GIG Cymru wedi’i wario ar staff asiantaeth ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer. (WAQ60704)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes unrhyw gynlluniau i ddiwygio Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol 2005. (WAQ60705)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o ymarferwyr offthalmig oedd wedi’u hawdurdodi i gynnal profion golwg a gyllidir gan y GIG ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ60706)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian y mae’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i wario ar gwmnïau cynghori ac ymgynghorwyr allanol ym mhob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer.  (WAQ60707)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw’r amcangyfrif presennol o’r costau y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd yn rhaid eu talu o ganlyniad i’r polisi i ymestyn oriau agor meddygfeydd. (WAQ60708)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw cyfanswm nifer y practisau meddygon teulu yng Nghymru, fesul Bwrdd Iechyd Lleol. (WAQ60709)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o bractisau meddygon teulu sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau i gleifion ar ddydd Sadwrn, fesul Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ60710)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o bractisau meddygon teulu sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau i gleifion am 08.00 neu’n gynharach a 18.00 neu’n hwyrach ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos waith, fesul Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ60711)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o bractisau meddygon teulu sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau i gleifion tan 18.00 neu’n hwyrach ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos waith, fesul Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ60712)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o bractisau meddygon teulu sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau i gleifion am 08.00 neu’n gynharach ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos waith, fesul Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. (WAQ60713)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Ers dechrau yn ei swydd, a wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r holl gyfarfodydd y mae wedi’u cynnal gydag a) Cyngor y Benthycwyr Morgeisi a b) darparwyr morgeisi yn gyffredinol, gan gynnwys y dyddiadau y cawsant eu cynnal. (WAQ60690)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn bod rhaid i gyfrifon Rhondda Life gael eu harchwilio’n allanol.  (WAQ60691)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau am unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i strwythur rheoli Rhondda Life yn dilyn ei broblemau ariannol. (WAQ60692)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am faint o swyddi sydd wedi’u creu yn Rhondda Life, ac os felly, a all y Gweinidog ddarparu'r ffigurau hyn. (WAQ60693)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i Rhondda Life ers iddo gael ei sefydlu. (WAQ60694)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa gyfraniad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran monitro prosiect Rhondda Life cyn mis Mai 2012, ac a wnaiff y Gweinidog roi manylion am y cyfraniad hwnnw. (WAQ60695)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o Rhondda Life ers iddo wynebu problemau ariannu. (WAQ60696)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod prosiect Rhondda Life yn cyflawni'r tri cham a fwriadwyd. (WAQ60697)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddarparu cyllid ychwanegol, ar ffurf benthyciad neu grant, i brosiect Rhondda Life. (WAQ60698)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gynnal archwiliad ffurfiol i Rhondda Life, ac os felly, gan bwy. (WAQ60699)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw’r anawsterau ariannol yn Rhondda Life wedi arwain at adolygu canllawiau neu bolisïau Llywodraeth Cymru wrth yndrin â phrosiectau sy'n cael arian cyhoeddus. (WAQ60700)