29/09/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 29 September 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 29 Medi 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

David Melding (Canol De Cymru): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith sefyll TGAU mathemateg arholiad-yn-unig ar ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu, ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad. (WAQ54836)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae TGAU yn gymhwyster DU cyfan. Ar y cyd, mae'r rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ynghylch cymwysterau TGAU ac maent wedi llunio 'taflenni cynhwysiant' sy'n canolbwyntio ar gamau i'w cymryd i leihau'r rhwystrau a all wynebu dysgwyr anabl.  

Mae trefniadau mynediad, addasiadau rhesymol a pholisïau eithrio ar waith i oresgyn rhwystrau, a hysbyswyd y cyrff dyfarnu y dylent roi'r rhain ar waith wrth ddatblygu manylebau newydd ar gyfer 2010.

Diben Trefniadau Mynediad, er enghraifft darllenwyr, ysgrifenwyr, amser ychwanegol a seibiannau gorffwys dan oruchwyliaeth, yw galluogi dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig, anableddau neu anafiadau dros dro i gael eu hasesu. Maent yn galluogi'r dysgwyr hyn i ddangos yr hyn y maent yn ei wybod ac yn gallu ei wneud heb newid gofynion yr asesiad.  

David Melding (Canol De Cymru): A oes unrhyw gynigion i ehangu’r gweithdrefnau asesu ar gyfer Mathemateg ar lefel TGAU, ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad. (WAQ54837)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Nac oes.  Yn ôl y cytundeb rheoleiddiol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, caiff asesiadau TGAU ar gyfer pob pwnc eu gosod yn allanol ac arholiadau ysgrifenedig ydynt fel arfer heblaw mewn achosion pan na all y sgiliau a asesir mewn pwnc gael eu hasesu'n ddilys yn y ffordd honno. Byddwch yn cofio, mae'n siŵr, y drafodaeth gyhoeddus a phroffesiynol sylweddol ar ffyrdd o ddefnyddio a chamddefnyddio gwaith cwrs a wnaeth arwain at y rheoliadau presennol. O ran mathemateg, yn dilyn ymgynghoriad cenedlaethol, cytunwyd y dylai disgyblion gael eu hasesu'n llawn drwy gyfrwng arholiadau ysgrifenedig a osodir yn allanol.

Wrth gwrs, nid TGAU yw'r unig gymhwyster sydd ar gael ar y lefel hon, ac mae Cymru wedi annog y defnydd o Sgiliau Allweddol yn gyffredinol ac yn benodol o ran Cymhwyso Rhif. Asesiad yw hwn sy'n seiliedig ar bortffolio ac mae'n elfen ofynnol yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru. Bydd olynydd Sgiliau Allweddol, sef Sgiliau Hanfodol Cymru, hefyd yn gweithredu system asesu debyg sy'n seiliedig ar bortffolio.

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch yng Nghymru. (WAQ54842)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae Llywodraeth y Cynulliad, ers peth amser, wedi ystyried ehangu mynediad yn flaenoriaeth uchel a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol fel agwedd graidd ar ei hymgyrch i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol.

Rwyf yn cytuno'n llwyr ag Adroddiad Jones sy'n hyrwyddo gwerth addysg uwch i fywydau a lles unigolion a chymunedau.  Rwyf am ysbrydoli mwy o bobl i anelu at addysg uwch a gweithredu fel eiriolwr i'r rhai hynny y bydd addysg uwch yn fenter hollol newydd iddynt.  

Fel rhan o'r gwaith hwn, byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr a swyddogion i sicrhau bod sefydliadau Addysg Uwch (AU) yn parhau i ymgysylltu â cholegau addysg bellach a darparwyr sgiliau eraill er mwyn cyflawni'r agenda drawsnewid yng Nghymru.

Mae'n dda gennyf nodi y gwnaeth adroddiad Jones gyfeirio'n benodol at rôl bwysig Graddau Sylfaen a sefydliadau addysg bellach sy'n eu cyflwyno, ac rwy'n awyddus i hybu rhagor o bobl i astudio am y cymhwyster hwn a hyrwyddo ei rôl bwysig o ran mynd i'r afael â sgiliau lefel technegwyr a rheolwyr yng Nghymru. Rwyf hefyd am ei gwneud yn fwy posibl i ragor o bobl gyflawni sgiliau lefel uwch.  Roedd yr adroddiad yn awgrymu y dylai'r broses o ddarparu a dyfarnu'r Graddau Sylfaen gael ei harwain gan bwy bynnag sydd yn y sefyllfa orau i gynnig darpariaeth o lefel, natur ac ansawdd briodol.  Rwy'n cefnogi'r cysyniad hwn ac mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn gweithio i ddatblygu polisi strategol ar ddarparu Graddau Sylfaen.

Rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r anghysondeb o ran mynediad ym Mlaenau'r Cymoedd, lle bydd darpariaeth AU yn dechrau'r flwyddyn galendr hon.  Mae'r prosiect cydweithredol i ddatblygu darpariaeth AU ym Mlaenau'r Cymoedd yn gam mawr i ehangu mynediad yn yr ardal hon, ac mae'n fodel allweddol o gydweithredu i ehangu mynediad a chodi'r sylfaen sgiliau.  Rwy'n gobeithio y gall y fenter hon ddod yn fodel o gydweithredu rhwng sectorau addysg uwch ac addysg bellach er budd cymunedau lleol.

Mae'r mesurau cymorth myfyrwyr a gyhoeddwyd yn dilyn Cam 1 o'r adolygiad yn rhan allweddol o'n dull o hyrwyddo mynediad ehangach a thecach i addysg uwch.  Mewn ymateb i gynigion yr adolygiad ar gyfer system cyllid myfyrwyr ddiwygiedig, mae'r mesurau yn cynnwys ailgyfeirio adnoddau o'r Grant Ffioedd Dysgu i helpu i ehangu cyfranogiad drwy Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyrwyr o gartrefi incwm isel.

Hoffwn hefyd weld ymagwedd newydd at Fframwaith Bwrsariaethau Cenedlaethol i Gymru, sef fy nhrydedd flaenoriaeth hanfodol, er mwyn helpu rhoi mynediad i addysg i fyfyrwyr a'u cadw.  Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn archwilio opsiynau ond mae'r egwyddor sylfaen yn cynnwys fframwaith sy'n rhoi cymorth mewn modd teg a chyson i'r rhai sydd ei angen.

Agwedd bwysig ar yr agenda ehangu mynediad a amlygwyd yn adroddiad yr Athro Jones yw argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a defnydd o'r iaith Gymraeg yn ein sefydliadau AU, ac rwy'n croesawu cefnogaeth yr adroddiad i fodel Coleg Ffederal, sef fy mhedwaredd flaenoriaeth, er mwyn creu newid sylweddol mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sy'n un o ymrwymiadau allweddol Cymru'n Un.  

Yng Nghymru, nid perswadio unigolion sydd â chymwysterau da i fynd ymlaen i addysg uwch yw ein her gyffredinol - maent eisoes yn gwneud hynny - ond yn hytrach sicrhau y gall mwy o bobl ifanc dawnus a galluog ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fod yn barod i fynd i'r brifysgol.  Yn achos y rhan fwyaf o'r dangosyddion, mae Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru yn rhagori ar gyfartaleddau’r DU o ran denu cymysgedd cymdeithasol eang o fyfyrwyr.

Mae ehangu mynediad i addysg uwch yn un o themâu allweddol Ymgeisio yn Uwch, ac mae £2 filiwn ychwanegol wedi'i ryddhau i bedair Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer gweithgareddau ehangu mynediad bob blwyddyn ers 2002-03.  Mae'r Partneriaethau Ymgyrraedd yn Ehangach wedi bod yn canolbwyntio ar ddenu a chadw myfyrwyr o gefndiroedd incwm isel (a nodir drwy godau post), lleiafrifoedd ethnig, myfyrwyr ag anableddau a myfyrwyr hŷn. Mae'r Partneriaethau yn ymwneud ag amrywiaeth eang o brosiectau sy'n ceisio hyrwyddo addysg uwch ymhlith y rhai nad oes traddodiad gan eu teuluoedd na'u cymunedau o fynd ymlaen i'r brifysgol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru gorwariant a thanwariant unigol Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru ar 1af Medi. (WAQ54838)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Ni chedwir gwybodaeth am orwariant na thanwariant Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru yn ganolog.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl trwydded i ddifa moch daear a gyhoeddwyd yn ystod y 2 flynedd diwethaf. (WAQ54840)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno unrhyw drwyddedau i ddifa moch daear yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Caiff moch daear a'u brochfa eu hamddiffyn yn llawn gan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Fodd bynnag, yn ôl Adran 10(2) a (3) o'r Ddeddf mae awdurdod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) ymyrryd â brochfa moch daear:

i) at ddiben unrhyw weithrediad amaethyddol neu goedwigaeth;

ii) at ddiben unrhyw weithrediad i gynnal a chadw neu wella unrhyw gwrs dŵr neu waith draenio presennol, neu i adeiladu gwaith newydd sydd ei angen er mwyn draenio'r tir, gan gynnwys gwaith amddiffyn rhag dŵr môr neu ddŵr llanw;

iii) rheoli llwynogod er mwyn gwarchod da byw ac anifeiliaid hela wedi'u corlannu

b) lladd neu ddwyn moch daear neu ymyrryd â'u brochfa:

i) at ddiben atal clefydau rhag ymledu;

ii) at ddiben atal difrod difrifol i dir, cnydau, dofednod neu unrhyw fath arall o eiddo.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Sawl trwydded i symud moch daear a gyhoeddwyd yn ystod y 2 flynedd diwethaf. (WAQ54841)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno unrhyw drwyddedau i gael gwared ar foch daear yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.  

Mae Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn gwarchod moch daear a'u brochfa yn llawn. Fodd bynnag, yn ôl Adran 10(2) a (3) o'r Ddeddf mae awdurdod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a)ymyrryd â brochfa moch daear:

i) at ddiben unrhyw weithrediad amaethyddol neu goedwigaeth;

ii) at ddiben unrhyw weithrediad i gynnal a chadw neu wella unrhyw gwrs dŵr neu waith draenio presennol, neu i adeiladu gwaith newydd sydd ei angen er mwyn draenio'r tir, gan gynnwys gwaith amddiffyn rhag dŵr môr neu ddŵr llanw;

iii) rheoli llwynogod er mwyn gwarchod da byw ac anifeiliaid hela wedi'u corlannu

b) lladd neu ddwyn moch daear neu ymyrryd â'u brochfa:

i) at ddiben atal clefydau rhag ymledu;

ii) at ddiben atal difrod difrifol i dir, cnydau, dofednod neu unrhyw fath arall o eiddo.

Mae 93 o drwyddedau wedi'u cyflwyno yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ymyrryd â brochfa moch daear.