29/09/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Medi 2011 i’w hateb ar 29 Medi 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddewisiadau ar gyfer modelau cyllid preifat gwahanol i’r fenter cyllid preifat, ac os felly, pa ddewisiadau sy’n cael eu hystyried. (WAQ58055)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ57620, a wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad gwerthuso a’r digwyddiad cenedlaethol arfaethedig. (WAQ58054)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi cael diagnosis o i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58056)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi marw o i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58057)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl sydd wedi cael triniaeth ar gyfer i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58058)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyfeiriadau pythefnos a wnaethpwyd ar gyfer cleifion â diagnosis o i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58059)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r cyfnod aros cyfartalog ar gyfer cleifion a dderbynnir i ysbyty â diagnosis o i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ar gyfer (a) derbyniadau dewisol, a (b) derbyniadau brys wedi’u dadansoddi yn ôl 1) rhwydwaith canser 2) bwrdd iechyd lleol a 3) Cymru ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. (WAQ58060)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o (i) derbyniadau dewisol, a (ii) derbyniadau brys a gofnodwyd ar gyfer cleifion â diagnosis o i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58061)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog Iechyd wedi’i wneud o ddarparu nyrsys clinigol arbenigol ar gyfer cleifion sydd â i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol; ac a wnaiff hi ddatganiad am y mater.   (WAQ58062)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o’r bobl a fu farw o ganser a oedd yn (a) 49 oed ac iau (b) rhwng 50 a 59 (c) rhwng 60 a 69 (d) rhwng 70 a 79 ac (e) dros 80 oed ym mhob a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58063)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o’r bobl a gafodd ddiagnosis o ganser a oedd yn (a) 49 oed ac iau (b) rhwng 50 a 59 (c) rhwng 60 a 69 (d) rhwng 70 a 79 ac (e) dros 80 oed ym mhob i) rhwydwaith canser ii) bwrdd iechyd lleol a iii) Cymru ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ58064)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o gleifion â i) canser ii) canser y perfedd iii) canser yr ofari iv) canser yr ysgyfaint v) canser y fron vi) melanoma malaen a vii) canserau hematolegol a gafodd ddiagnosis gyntaf fel achos brys wedi'u dadansoddi yn ôl a) rhwydwaith canser b) bwrdd iechyd lleol ac c) Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. (WAQ58065)