29/10/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22ain Hydref 2008 i’w hateb ar 29ain Hydref 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad, fesul sir, yn dangos pa flaenoriaethau y mae pob sir wedi’u nodi a sut y maent yn defnyddio’r £1.7 miliwn a ddyrannwyd yng nghyllideb 2007 a blynyddoedd dilynol i gefnogi goblygiadau addysgol y Cynllun Gweithredu Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig. (WAQ52652)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad, fesul sir, am sut y caiff y cyllid ychwanegol ar gyfer gweithwyr trosglwyddo allweddol ei ddefnyddio a sut y mae pob sir yn cyflawni ei rhwymedigaethau. (WAQ52653)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cydlynu darpariaeth ac yn cynllunio ar gyfer pobl ifanc sydd ag angen ychwanegol wrth drosglwyddo. (WAQ52654)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): I ba raddau y mae disgyblion sydd ar "gweithredu gan yr ysgol” a "gweithredu gan yr ysgol a mwy” yn cael eu trin yn gydradd â’r rheini sydd â datganiad ar gyfer angen arbennig. (WAQ52655)

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sydd wedi’i wneud i sefydlu’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar wasanaethau eirioli i blant. (WAQ52658)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ddyraniad sydd wedi cael ei wneud ar gyfer Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) dan gyllideb 2009/2010. (WAQ52660)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adolygiad o gyfleusterau cyhoeddus ar hyd cefnffyrdd. (WAQ52659)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nerys Evans Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o arian yn adran y Gweinidog sy'n cael ei wario ar raglenni atal tlodi tanwydd. (WAQ52661) W

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ44496, a all y Gweinidog yn awr ddarparu ffigurau ar gyfer 2006-07, 2007-08 a 2008-09. (WAQ52668)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A yw’r £3.6m a ddyrennir ar gyfer Strategaeth Awtistiaeth Cymru y mae’r Gweinidog yn cyfeirio ato yn y Western Mail ar 15 Hydref yn arian newydd ac ychwanegol i’r £1.8m sydd eisoes wedi’i neilltuo ar gyfer y Strategaeth ynghyd â’r £1.7m o’r Grant Cynnal Refeniw, ac, os felly, a wnaiff y Gweinidog ddatgan sut y caiff yr arian ychwanegol hwn ei wario. (WAQ52656)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ45315, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb. (WAQ52666)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ45316, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb. (WAQ52667)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith gemau Olympaidd Llundain 2012 ar chwaraeon ar lawr gwlad. (WAQ52662)

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladau rhestredig hanesyddol y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt. (WAQ52664)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

David Melding (Canol De Cymru): Faint o gyrff statudol yng Nghymru sy’n cyflawni eu gofyniad i gyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb i Bobl Anabl mewn fformat hygyrch fel sy’n ofynnol dan Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl 2006, ac a wnaiff y Gweinidog ddatganiad. (WAQ52657)

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu toiledau cyhoeddus. (WAQ52663)