29/10/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Hydref 2012
i’w hateb ar 29 Hydref 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ledled Cymru ar gyfer cerbydau trydan. (WAQ61413)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Sawl gwaith y cyfarfu Gweinidogion ag AWEMA yn ystod y chwe mis yn dilyn yr adroddiadau ar AWEMA yn 2002 a 2004 ac yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cadeirydd bryd hynny yn 2007. (WAQ61414)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yng ngoleuni cyflwyno Cerdyn Sgorio Arloesedd y GIG i gefnogi defnyddio'r meddyginiaethau diweddaraf a argymhellir gan NICE ledled Lloegr, beth y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ei wneud i sicrhau bod triniaethau arloesol yn cael eu defnyddio mewn modd tebyg yng Nghymru. (WAQ61412)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gyfarwyddyd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi i Awdurdodau Lleol yng Nghymru mewn perthynas â Chyfraith Sarah, os o gwbl. (WAQ61411) Trosglwyddwyd i'w ateb gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol