30/09/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 30 September 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 30 Medi 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio rheoliadau datblygu a ganiateir ar gyfer tyrbinau gwynt domestig. (WAQ54845)

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Rwyf eisoes wedi gwneud newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir er mwyn sicrhau na fydd angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o gyfarpar meicrogynhyrchu domestig. Fodd bynnag, mae materion na chawsant eu datrys yn ymwneud â sŵn a dirgryndod sy'n gysylltiedig â thyrbinau gwynt a'u heffaith bosibl ar gymdogion wedi eu hatal rhag cael eu cynnwys yn y newidiadau hyd yn hyn.

Pan ddown o hyd i ateb ymarferol, caiff newidiadau i gynnwys tyrbinau gwynt ar raddfa ddomestig eu cynnwys yn y rheoliadau.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r ysbytai yng Nghymru a ddynodwyd i drin milwyr sydd wedi’u hanafu. (WAQ54843)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Nid oes unrhyw ysbytai yng Nghymru wedi'u dynodi i drin milwyr sydd wedi'u hanafu.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa brotocolau sydd ar waith i gefnogi trin ac adsefydlu milwyr sydd wedi’u hanafu yn y gymuned. (WAQ54844)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae protocolau yn fater clinigol ac nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru y wybodaeth hon.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd y bydd Ffeithiau a Ffigurau Coedwigaeth 2009 yn cael eu cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2009. (WAQ54846)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Cyhoeddwyd Ffeithiau a Ffigurau Coedwigaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009 ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn www.forestry.gov.uk/forestry/infd-7aqdgc ar 24ain Medi 2009.

Bydd copïau papur o lyfryn Ffeithiau a Ffigurau Coedwigaeth 2009 ar gael o fewn y pythefnos nesaf.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw costau rhagamcanol adolygiad presennol y Comisiwn Ffiniau i Ardaloedd Etholiadol yng Nghymru. (WAQ54847)

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Mae'r adolygiad o drefniadau etholiadol Cymru gyfan yn un o ddyletswyddau statudol Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.  Mae'r Comisiwn yn un o'r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad a darparwyd cyllideb flynyddol o £660,000 ar gyfer 2009/10. Er mwyn cydnabod gwaith ychwanegol yr adolygiadau etholiadol cynyddwyd cyllideb y Comisiwn £254,000 ers 2007/08.

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Comisiwn ar gyfer 2008/09, sy'n cynnwys crynodeb o'u cyfrifon, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y Comisiwn a'r adolygiad o drefniadau etholiadol ar wefan y Comisiwn yn: http://www.lgbc-wales.gov.uk/