30/10/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Hydref 2012
i’w hateb ar 30 Hydref 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o arian sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer cyfathrebu a hyrwyddo gwaith gweinidogol, ac a allwch roi dadansoddiad yn hyn o beth ar gyfer pob Gweinidog ym mhob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ61429)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar hysbysebu swyddi gwag yn y wasg ysgrifenedig ym mhob un o'r tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ61427)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, o unrhyw faint, sydd â phencadlys neu brif leoliad eu gweithrediadau ym Mro Morgannwg, ac a wnaiff y Gweinidog roi nifer y staff ar gyfer pob un. (WAQ61428)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu rhoi ail sbectol a geir am ddim drwy bresgripsiwn gan y GIG i blant mwyach oherwydd cyfyngiadau ar y gyllideb. (WAQ61415)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r cynigion unigol sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a rhoi gwybodaeth am a) pa fis y cafwyd y cynnig; b) pa fis y cymeradwywyd neu y gwrthodwyd y cynnig; c) cyfanswm yr arian a oedd o dan sylw yn y cynnig; ac ch) cyfanswm yr arian a gafwyd. (WAQ61417)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth oedd y swm a wariodd Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio ym mhob blwyddyn ariannol ers ei sefydlu. (WAQ61418)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth oedd y gyllideb ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio ym mhob blwyddyn ariannol ers ei sefydlu. (WAQ61419)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Faint o fuddsoddiad sector preifat ychwanegol y mae Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi'i sbarduno y mae modd ei fuddsoddi mewn cynlluniau adfywio ledled Cymru. (WAQ61420)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa waddol cynaliadwy y mae Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi’i greu a faint o elw y mae wedi’i gynhyrchu / y rhagfynegir iddi ei gynhyrchu y bydd modd ei ailfuddsoddi mewn cynlluniau yn y dyfodol yng Nghymru. (WAQ61421)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa amcanion polisi o’r Rhaglen Lywodraethu sy’n cael eu cyflawni drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. (WAQ61422)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth yw’r targedau y cytunwyd arnynt ar gyfer Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio o allbynnau’r Rhaglen Weithredol a pha ganlyniadau sydd eisoes wedi cael eu cyflawni. (WAQ61423)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Faint o hyder sydd gan y Gweinidog y bydd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac arian cyfatebol yn cael eu hymrwymo cyn mis Rhagfyr 2015, drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. (WAQ61424)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu darparu arian ychwanegol ar gyfer adfywio mewn ardaloedd (hynny yw, Dwyrain Cymru) na ddônt o dan Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. (WAQ61425)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa gyfran o ardal cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd sydd hefyd yn dod o dan Ardal Adfywio Strategol. (WAQ61426)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro arian cyhoeddus a roddir i ganghennau Cyngor ar Bopeth Cymru. (WAQ61416)