Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 01 Chwefror 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2011
NDM4643 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)
Gosodwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)
a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 6 Rhagfyr 2010;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 21 Ionawr
2011.
NDM4644 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(c), sy’n codi o ganlyniad I’r Mesur.
NDM4645 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y manteision sylweddol i'r GIG yng Nghymru o ganlyniad i'r buddsoddiad cyfalaf o £1.4bn yn y GIG yn ystod oes y Llywodraeth hon.
NDM4646 Jane Hutt (Vale of Glamorgan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno bod llythrennedd yn hanfodol i ddysgu ac felly bod gan bob athro yng Nghymru gyfrifoldeb i sicrhau bod eu haddysgu yn helpu pobl ifanc i fod yn gwbl lythrennog;
2. Yn cytuno bod angen ar frys i godi safonau llythrennedd yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth genedlaethol gan gynnwys ymrwymiad gan Lywodraethwyr, arweinwyr ysgolion, Penaethiaid, rhieni a dysgwyr ar draws pob haen o'r byd addysg i gyflawni cynnydd sy'n sylweddol ac yn fesuradwy.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4645
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y sialensiau sylweddol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru o ganlyniad i'r gostyngiadau termau real gwerth £98m mewn cyfalaf yn y GIG dros y tair blynedd nesaf.
2. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi yr amcangyfrifir bod yr ôl-groniad o waith atgyweirio yn ysbytai Cymru ac adeiladau eraill y GIG bellach yn £460m.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er gwaethaf y buddsoddiad cyfalaf hwn, fod Adroddiad Cyflwr a Pherfformiad yr Ystad 2009/2010 yn dangos:
a) Cyfanswm ôl-groniad o waith atgyweirio gwerth £460 miliwn, gyda £209 miliwn am Gost Risg Sylweddol ac Uchel;
b) Mae dwy Ymddiriedolaeth Iechyd yn dal i fethu diwallu rheoliadau diogelwch tân a bennwyd ar gyfer 2005 a 2008;
c) Nid oedd dim un o'r Ymddiriedolaethau Iechyd wedi cyrraedd targed 2008 ar gyfer rheoliadau statudol a diogelwch gan gynnwys y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, asbestos, legionella, gwastraff peryglus;
d) Nid oedd dim un o'r Ymddiriedolaethau Iechyd wedi cyrraedd targed 2008 ar gyfer sicrhau bod 90% o'r ystad iechyd o safon gadarn, yn ddiogel yn weithredol ac yn dangos dim ond ychydig o ddirywiad;
e) Amcangyfrifir bod cost cydymffurfio â'r cod diogelwch tân yn £14 miliwn, sydd £2 miliwn yn uwch na 2008-2009;
f) Mae cyfanswm cost cyflawni gwaith y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd bron yn £16 miliwn.
Yn galw am Gynllun Gweithredu strategol sy'n blaenoriaethu buddsoddiad yn y GIG sy'n mynd i'r afael â risg ddifrifol ac sy'n sicrhau hygyrchedd i bobl anabl.
Mae Adroddiad Perfformiad a Chyflwr yr Ystad 2009/10 ar gael yn:
http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/254/EstCondReport0910.pdf
(Saesneg yn unig)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi'r gorau i'w gwrthwynebiad at ddefnyddio mecanweithiau cyllido amgen er mwyn sicrhau bod modd buddsoddi arian ychwanegol yn ystad y GIG.
NDM4646
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried ariannu ysgolion yn uniongyrchol, a fyddai'n rhyddhau adnoddau hanfodol mae modd eu hailgyfeirio i'r rheng flaen i fynd i'r afael ag anllythrennedd.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y canlyniadau PISA wedi dangos mai Cymru sydd â'r safonau llythrennedd gwaethaf o holl ranbarthau'r DU a'u bod wedi dirywio er 2006.
Mae'r adroddiad PISA 2009: Cyflawniadau pobl ifanc 15 mlwydd oed yng Nghymru ar gael yn:
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod bwlch cyllido o £604 y disgybl wedi cyfrannu at lefel llythrennedd is yng Nghymru.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cysylltiad rhwng amddifadedd a lefelau llythrennedd is ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu premiwm disgybl newydd i fynd i'r afael â hyn.