Motions and Amendments for Debate on 01 April 2009
Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 01 Ebrill 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Mawrth 2009
Dadl Fer
NDM4192 Chris Franks (Canol De Cymru): Gordon Brown yn torri £500 miliwn o gyllideb Cymru: ergyd i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru.
NDM4190 Darren Millar (Clwyd West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Fyrddau Gwasanaeth Leol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2008.
Noder: Darparwyd ymateb y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 4 Mawrth
NDM4191 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod nifer y plant a’r bobl ifanc â namau cymhleth yn cynyddu’n gyflym.
2. Yn nodi’r potensial sydd gan bobl anabl ifanc i’w gyfrannu at economi Cymru;
3. Yn nodi nad oes dim darpariaeth yng Nghymru ar hyn o bryd o wasanaethau addysg ôl-16 ar gyfer pobl ifanc â namau cymhleth, ac felly bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dibynnu ar ddarpariaeth mewn colegau yn Lloegr i gefnogi’r myfyrwyr hyn;
4. Yn credu ei bod yn hen bryd cael “ateb Gwnaed yng Nghymru” ar gyfer darparu cyfle addysgol i bobl ifanc anabl; ac
5. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yn ofalus argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu ar ôl iddo ystyried y ddeiseb anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r ddeiseb ynghylch myfyrwyr ôl 19 ag anghenion dysgu ychwanegol ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol
http://www.assemblywales.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-179.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Mawrth 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4191
1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 1 dileu “â namau cymhleth yn cynyddu’n gyflym” a rhoi yn ei le “y nodwyd bod ganddynt anghenion cymhleth yn cynyddu”.
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 3 ac ailrifo yn ôl y gofyn.
3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 4 dileu “Yn credu ei bod yn hen bryd cael” a rhoi yn ei le “Yn cymeradwyo datblygiad”.
4. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 5 dileu “Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yn ofalus” a rhoi yn ei le “Yn nodi y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried”.
5. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod strategaeth dymor hir yn cael ei datblygu er mwyn darparu cyfleoedd addysgol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg ôl 16 a sicrhau bod digon o gyllid ar gael i roi’r strategaeth ar waith.”