01/07/2014 - Cynigion heb Ddyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2014

Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol

Cynigion a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf 2014

NNDM5551

Andrew RT Davies (Canol De Cymru)

Leanne Wood (Canol De Cymru)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Paul Davies (Preseli Penfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.

2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio â'r Cod

3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol

4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.

Mae’r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion ar gael yma: http://wales.gov.uk/docs//dfm/publications/110708ministerialcodecy.doc

Mae adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru ar gael yma (Saesneg yn unig): http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-fourth-deposited-papers.htm?act=dis&id=257125&ds=7/2014