01/12/2009 - Cynigion a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 01 Rhagfyr 2009

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Hydref 2009

NDM4335 Jane Davidson (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:

Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amgylchedd) 2010.

Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 24 Tachwedd 2009.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor ar y Gorchymyn ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff gerbron y Cynulliad ar 29 Tachwedd 2007.

Gosodwyd Adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Amgylchedd) 2009 gerbron y Cynulliad ar  19 Mehefin 2009.

NDM4336 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2008-09; a

2. Yn nodi y bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn llunio ymateb ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y bydd yn cyflwyno adroddiad yn ei gylch i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Mawrth 2010.

Gellir gweld y Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2008-09 ar y ddolen ganlynol:

h

ttp://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2009

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4335

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn gresynu wrth y diffyg eglurder ynghylch lle bydd ffiniau Cymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.’

2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

‘Yn gresynu wrth y defnydd eang o eithriadau i’r eithriadau ac yn nodi bod y rhain yn cyfrannu at gymhlethdod a diffyg eglurder y ddeddfwriaeth.’

NDM4336

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Rhoi pwynt newydd i mewn ar ôl pwynt 1:

‘Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau cenedlaethol sy’n anelu at wireddu hawliau plant yn cael eu rhoi ar waith yn llawn mewn dull cyson ac amserol.’