Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 03 Mawrth 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2009
NDM4154 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu ymdrechion parhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith y dirwasgiad ar deuluoedd, busnesau a chymunedau Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26.02.09
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4154
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder nad oes system fonitro effeithiol ar gael i fesur effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i liniaru effaith yr argyfwng economaidd.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod camau pendant iawn yn cael eu gwneud yn dilyn y trafodaethau yn yr uwchgynadleddau economaidd.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y dreth gyngor yn fath o dreth atchweliadol sy’n cael effaith anghyfrannol ar y rheini sydd eisoes yn dioddef fwyaf o’r dirwasgiad, ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w disodli â system decach o drethu lleol yn seiliedig ar allu i dalu.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi ffocws newydd i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref fel ei fod yn helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi hwb i’r diwydiant adeiladu drwy ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ddod ag ysbytai ac ysgolion i safon briodol.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod diwydiannau newydd a diwydiannau sy’n datblygu yn darparu cyfle ar gyfer twf economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddwyn ymlaen ei chynllun gweithredu swyddi gwyrdd cyn gynted â phosibl.