Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 03 Mawrth 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2010
Dadl Fer
NDM4430 Jeff Cuthbert (Caerffili): Peiriannu ein Dyfodol
NDM4428
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn mynegi pryder am ddiffyg atebolrwydd a thryloywder wrth redeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
NDM4429
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd diagnosis cynnar o demensia.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd mesurau i ddiwallu’r galw cynyddol ar gyfer gofal demensia ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyhoeddi ei Chynllun Demensia Cenedlaethol ar gyfer Cymru cyn gynted ag sy’n bosibl.
NDM4431
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod cyflenwad tai fforddiadwy yn cynyddu o leiaf 6,500 cyn 2011.
2. Yn credu y byddai mwy o gyflenwad yn golygu y dylai fod 6,500 yn fwy o dai fforddiadwy yng Nghymru erbyn 2011 o’i gymharu â 2007.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau ar frys i sicrhau cymaint o gynnydd ag sy’n bosibl yn nifer y tai fforddiadwy a gaiff eu darparu er mwyn gwella’r siawns o gyrraedd y targed hwn.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Chwefror 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4428
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu ei phenderfyniad i beidio ag ymchwilio i’r honiad nad yw hyd at un rhan o bump y gyllideb iechyd yn cael ei gwario’n effeithiol.
NDM4429
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd camau i ddiwallu’r galw cynyddol am ofal demensia ledled Cymru.
3. Yn cydnabod bod y Cynllun Demensia Cenedlaethol yn cael ei ddatblygu gan grwp sy’n cynnwys cynrychiolwyr y GIG, Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y bygythiadau i’r gwasanaeth ar gyfer demensia sy’n dechrau’n ifanc yn Llys Oldwell yng Nghaerdydd.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth nifer gyfyngedig y seicolegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl sydd ar gael i gefnogi gwasanaethau demensia.
NDM4431
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod y cyflenwad tai fforddiadwy yn cynyddu o leiaf 6,500 o fewn tymor y llywodraeth hon.
2. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni hyn, drwy ddarparu 4235 yn rhagor o unedau tai fforddiadwy yng Nghymru erbyn mis Rhagfyr 2009.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y trywydd iawn felly i wireddu’i hymrwymiad.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am Gynllun Adfer Tai Cenedlaethol i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru.