Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 3 Mawrth 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2015
NDM5704 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, yn cytuno i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.
NDM5705 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ecsbloetio plant yn rhywiol a'r drosedd o loetran neu lithio at ddibenion puteindra, a gosod dyletswydd ar amrywiol weithwyr proffesiynol i roi hysbysiad am achosion a nodir o anffurfio organau cenhedlu benywod a phŵer cysylltiedig i wneud canllawiau statudol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
NDM5706 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) adrannau 2 - 11
b) Atodlen 1
c) adrannau 12-14
d) Atodlen 2
e) adrannau 15 – 31
f) Atodlen 3
g) adrannau 32 – 44
h) Atodlen 4
i) adrannau 45 - 55
j) adran 1
k) teitl hir