Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 03 Mehefin 2011
NNDM4727 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4634, ddarpariaethau pellach a gyflwynwyd yn y Bil Ynni ynghylch Dal a Storio Carbon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I weld copi o’r
Mesur Seneddol Lleoliaeth i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html