04/03/2015 - Cynnig â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 25/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/03/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 4 Mawrth 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Mawrth 2015

 

Dadl Fer

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cyfeillio - atal unigrwydd ac arwahanrwydd

Defnyddio cyfeillio i atal unigrwydd ac arwahanrwydd.

 

NDM5707 Rosemary Butler (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 30, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

NDM5709 David Rees (Aberafan)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.

 

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant.

 

NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall o'r DU;

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei thaliadaeth;

3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;

4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;

5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn;

6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a

7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Chwefror 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5710

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:

a) refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

b) sefydlu Comisiwn Silk;

c) cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:

a) datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;

b) datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd Traffig;

c) cyflwyno model cadw pwerau;

d) datganoli datblygu porthladdoedd;

e) datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;

f) datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig; a

g) datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru

3. Yn credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am:

a) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;

b) datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;

c) datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;

d) datganoli terfynau yfed a gyrru;

e) datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;

f) datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy;

g) trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;

h) trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl;

i) datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol Cymru;

j) rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a

k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.

4. Yn galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd. 

Mae Deddf Cymru 2014 ar gael yn:

www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents (Saesneg yn unig)

Mae adroddiadau Silk Rhan 1 a Rhan 2 ar gael yn:

http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20140605075122/http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/

 

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;

3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;

4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.

5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a

6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.

Mae'r papur gorchymyn ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/publications/powers-for-a-purpose-towards-a-lasting-devolution-settlement-for-wales (Saesneg yn unig)

 

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Yn croesawu'r newidiadau cyfansoddiadol sylweddol sydd wedi digwydd i setliad datganoli Cymru ers 2010 ac yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i anrhydeddu y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU.

 

NDM5711

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl.

 

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach a thecach i Gymru.

 

3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'.

 

4. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'.

 

5. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA;

 

6. Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.