Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 05 Mai 2010
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Ebrill 2010
Dadl Fer
NDM4468
Nick Ramsay (Mynwy): Wedi’u Dallu gan y Golau: Awyr Dywyll yng Nghymru
NDM4465
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynlluniad Cenedlaethol Cymru yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyd-fynd â gweledigaeth Adolygiad Beecham o’r modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu - Cyflawni Ar Draws Ffiniau.
Gellir gweld Adolygiad Beecham o’r modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu - Cyflawni Ar Draws Ffiniau drwy ddilyn y ddolen ganlynol -
h
ttp://wales.gov.uk/dpsp/strategy/delivering/responsee.pdf?lang=cyNDM4466 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2010;
2. Yn cymeradwyo’r gwelliannau i Reolau Sefydlog a nodir yn Adroddiad y Pwyllgor Busnes;
3. Yn cytuno y bydd y gwelliannau i Reolau Sefydlog yn dod i rym ar 26 Mai 2010; ac
4. Yn nodi’r Canllawiau ar gyfer Aelodau’r Cynulliad ar Gofnodi Cyflogaeth Aelodau Teuluol gyda Chymorth Arian y Comisiwn a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2010.
NDM4467
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi â phryder bod oddeutu 192,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 28 Ebrill 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4467
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu at ddiwedd y Cynnig:
"ac yn nodi bod 96,000 yn byw mewn tlodi difrifol a bod gan Gymru'r lefel uchaf o dlodi plant ymysg gwledydd y DU."
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Ebrill 2010
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4467
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileer a rhowch yn ei le:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Yn nodi â phryder bod rhyw 192,000 o blant, yn ôl y ffigurau a gynhyrchwyd gan y Joseph Rowntree Foundation yn 2009, yn byw mewn tlodi yng Nghymru.
2. Yn croesawu’r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd i leihau tlodi plant fel Dechrau’r Deg, Genesis Cymru a Chronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru.
3. Yn croesawu ymhellach y ffaith mai Llywodraeth Cynulliad Cymru yw’r cyntaf i gyflwyno deddfwriaeth newydd, Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, i roi sail statudol ar gyfer ei strategaeth tlodi plant newydd a gyhoeddir cyn hir at bwrpas ymgynghori.
I weld Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, cliciwch ar y ddolen isod -
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-cf.htmjsessionid=NvwLLZQDx8x5J6fFSTxc1kn4pg1mQMJ4LnXTt90W7KPxG1JGlP7f!-225497037
NDM4465
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu effaith ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd ar gydweithio rhwng awdurdodau lleol fel y nodir yn adolygiad Beecham.