Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 7 Tachwedd 2007
Dadl Fer
NDM3703 Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Diwygio cyfansoddiadol, cael y cydbwysedd cywir ar gyfer dyfodol y DU
NDM3704 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog Rhif 20.1, yn sefydlu Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru a fydd yn cynnwys yr Aelodau sy’n cynrychioli’r rhanbarth hwnnw a’r etholaethau ynddo. Bydd y pwyllgor yn bodoli drwy gydol y Cynulliad hwn.
NDM3705 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. yn credu mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol yn y pen draw am achosion diweddar clwy’r traed a’r genau;
2. yn nodi methiant Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth y DU i sicrhau iawndal digonol i ffermwyr Cymru;
3. o’r farn mai’r Trysorlys sy’n gwbl gyfrifol am ariannu pob mesur i ddigolledu effeithiau’r achosion yng Nghymru.
NDM3706 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd ac archwilio effeithiolrwydd y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref o ran codi pobl o dlodi tanwydd
NNDM3691 Mike German (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:
Yn caniatáu i Mike German gyflwyno Mesur a Gynigiwyd gan Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2007 dan Reol Sefydlog 23.102.
Gellir gweld y Wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:
http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/business-measures-mb-012.htm
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Tachwedd 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3705
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol
1. Yn nodi casgliadau adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar yr achosion o glwy’r traed a’r genau yn Lloegr .
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu £1m ar gyfer hybu cig o Gymru ar adeg mor anodd i’r diwydiant.
3. Yn croesawu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu’n llwyr gynllun gwerth £6.75 miliwn er mwyn mynd i’r afael â darpar ystyriaethau lles ynghylch wyn.
4. Yn cymeradwyo camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddi fynd ati o ddifrif i ddarbwyllo trysorlys y DU i ariannu pecyn o gymorth economaidd ar gyfer ffermwyr Cymru.
Adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar yr achosion o glwy’r traed a’r genau yn Lloegr:
http://www.hse.gov.uk/news/archive/07aug/footandmouth.htm
NDM3706
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo‘r ffaith bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn pwyso a mesur ei strategaeth ar dlodi tanwydd yn unol ag ymrwymiad ‘Cymru’n Un’ i gynllun cenedlaethol ar effeithlonrwydd ynni ac arbedion.
Cymru’n Un:
http://new.wales.gov.uk/about/strategy/onewales/?lang=en