08/07/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 05/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/08/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 8 Gorffennaf 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Mai 2014

NNDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion, camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd i'w weld yma: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/criminaljusticeandcourts.html

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Mai 2014

NNDM5550 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai 2014.