09/01/2013 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 9 Ionawr 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 2 Ionawr 2013

NDM5128 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): ‘Sut y mae mynd â Busnes Cymru yn Rhyngwladol’

Yr angen am Gyngor Menter i Gymru.

NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi mewn nifer o ardaloedd nad ydynt yn rhai traddodiadol;

2. Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;

3. Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl ddwyieithog;

4. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer yr iaith; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir yn ‘Iaith fyw: iaith byw’:

a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae’r iaith yn dal i gael ei siarad yn eang;

b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;

c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;

d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;

e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;

f) cynllunio a hybu’r achos dros ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;

g) diwygio’r system gynllunio er mwyn i awdurdodau lleol allu osod cap ar nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau penodol; a

h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.

Mae ‘Iaith fyw: iaith byw’ ar gael yn:

http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy

Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gael yn: http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/2011-census/key-statistics-for-local-authorities-in-england-and-wales/index.html

NDM5130 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cefnogi trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 3 Ionawr 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5131

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi nad yw prynu maes awyr yn flaenoriaeth fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn nodi ymhellach nad yw’n flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?skip=1&lang=cy

Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion mesuradwy ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau busnes llwyddiannus yno.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 04 Ionawr 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5129

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu Pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael eu gwneud.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu Pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw: Iaith Byw” ac yn benodol i:

(a) hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;

(b) annog twf y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;

(c) hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;

(d) ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;

(e) ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu cytuno, ar sail statudol;

(f) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;

(g) archwilio pam nad oes rhagor o bobl ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion, ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith;

(h) adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;

(i) archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu yng Nghymru a allai fod yn atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos dros rannu cyfrifoldeb

3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

5. Yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd â’r chwe maes gweithredu a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith Byw, sef:

a) annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd;

b) cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;

c) cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;

d) cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;

e) gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac

f) cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 5 g):

‘a gosod asesiadau iaith annibynnol ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.’

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011.

Gellir gweld yr ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor Technegol Drafft 20 yn:

http://wales.gov.uk/consultations/planning/tan20consultation/?skip=1&lang=cy

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012.

Gellir gweld y safonau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn: http://www.comisiynyddygymraeg.org/English/Publications%20List/Safonau%20drafft%20diwygiedig_Revised%20draft%20standards.pdf

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru drwy:

(a) mynnu bod corff annibynnol yn cynnal adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;

(b) cynnwys lles y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig; ac

(c) sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.

NDM5130

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda’r bwriad o gyflawni hynny.’