Cynigion a Gwelliannau i’w trafod ar 11 Mawrth 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Mawrth 2009
Dadl Fer
NDM4174 Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A yw ITV wedi colli ei ffordd yn foesol? Gwybodaeth newyddion ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain
NDM4175 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn mynegi pryder nad oes cydraddoldeb i gleifion ledled Cymru o ran mynediad at feddyginiaethau.
2) Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau i wella atebolrwydd am benderfyniadau’n ymwneud â darparu cyffuriau.
NDM4176 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i dorri’r gyllideb ar gyfer cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal er mwyn ariannu’r broses o droi’n organig yng Nghymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 05 Mawrth 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4175
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau na fydd yr arbedion sy’n deillio o roi terfyn ar batentau ar gyffuriau cyffredin ac ar yr ail-negodi diweddar ar brisiau cyffuriau yn cael ei ailddyrannu o'r gyllideb feddyginiaeth hyd nes yr archwilir pob llwybr ar gyfer cyllido cyffuriau newydd, drud.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2009
NDM4176
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi methu asesu’n llawn y galw am y cynllun troi’n organig ac wedi methu ei gyllido’n ddigonol.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i adfer y gyllideb ar gyfer cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal cyn gynted ag sy’n bosibl