Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2010
NNDM4555 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r adroddiad terfynol gan y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru;
2. Yn cymeradwyo argymhellion y Comisiwn ynghylch sicrhau cyllid tecach i Gymru, gan gynnwys cyflwyno, drwy ychwanegu at fformwla presennol Barnett, ddull ariannu gwaelodol, ac yna ddiwygio’r fformwla yn ehangach;
3. Yn cytuno bod yn rhaid i’r gwaith o ddadlau’r achos â Llywodraeth y DU dros gyllid tecach barhau’n brif flaenoriaeth i Lywodraeth bresennol y Cynulliad;
4. Yn croesawu’r ystyriaeth fanwl y mae’r Comisiwn yn ei rhoi i’r achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gymru, a fydd yn fater i’w wynebu gan bobl Cymru yn y dyfodol; ac
5. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o’r pryderon a fynegwyd gan Gomisiwn Holtham ynghylch y system gyllido bresennol ar gyfer Cymru.
Gallwch weld copi o adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru drwy fynd i’r hyperddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/icffw/home/report/fundingsettlement/?skip=1&lang=cy