11/10/2016 - Cynigion â Dyddiadau Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 04/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 11 Hydref 2016

Cynnig a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2016

 
NDM6113 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb.

2. Cydnabod, yn sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau casineb.

Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 5 Hydref 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6113
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Nodi argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:

a) bod angen gwneud mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a

b) dylid gwneud mwy i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.
 
'Wales Hate Crime Research Project: Research Overview & Executive Summary' (Saesneg yn unig)