Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 11 Tachwedd 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2014
NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae Pecyn Cymorth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gael o'r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/armedforces/packagesupport/?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Tachwedd 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5613
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
Mae Maniffesto'r Lleng Frenhinol Brydeinig ar gyfer 2015 ar gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/4044612/Extend e d-Manifesto.pdf (Saesneg yn unig)
Mae Cyfamodau Cymunedol y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gael yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/3978192/ComCov_whats_next.pdf (Saesneg yn unig)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac
c) ar gyfer darpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
4. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.