Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 12 Mai 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 5 Mai 2009
NDM4206 Janet Ryder (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau Rhan 2 o Fesur Seneddol Diwygio Lles (Pobl Anabl: Hawl i Reoli Darparu Gwasanaethau), fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 18 Mawrth 2009, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 05 Mai 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Seneddol Diwygio Lles ewch i:
h
ttp://www.publications.parliament.uk/pa/ld200809/ldbills/032/09032.i-iv.htmlNDM4207 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Strategol Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol, ac yn cefnogi’i gweledigaeth a’i chyfeiriad o ran cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Gallwch weld y fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu Strategol Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol drwy ddilyn y cyswllt isod:
http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/active/?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Mai 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4207
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gydag Awdurdodau Lleol a Meysydd Chwarae i sicrhau bod mwy o fannau cyhoeddus ar gael ar gyfer gweithgareddau awyr agored, chwaraeon a rhandiroedd drwy ailddechrau defnyddio tir sy’n eiddo cyhoeddus a safleoedd tir llwyd.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran mynd i’r afael â lefelau gordewdra sy’n codi yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddefnyddio’r cyfleoedd a gyflwynir gan ‘Dringo’n Uwch: Creu Cymru Egnïol’ i fynd i’r afael â gordewdra er mwyn lleihau’r canlyniadau posibl i GIG Cymru yn y dyfodol.