Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2014
NNDM5470
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod rhai darparwyr gwasanaeth, gan gynnwys cwmnïau cyfleustodau a banciau, yn codi mwy ar ddefnyddwyr os ydynt am gael biliau, cyfriflenni a gwybodaeth arall ar bapur.
2. Yn cydnabod bod rhai pobl yng Nghymru yn methu â chael biliau, cyfriflenni a gwybodaeth arall ar-lein am nifer o wahanol resymau ac felly maent yn dibynnu ar y gwasanaeth ar bapur.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog darparwyr gwasanaeth i ymateb yn briodol i dystiolaeth yr ymgyrch Keep Me Posted, sy’n cefnogi defnyddwyr i allu dewis cael biliau, cyfriflenni a gwybodaeth arall ar bapur heb gael eu cosbi a heb orfod talu amdano.