13/06/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 06/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2017

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 13 Mehefin 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2017

 
NDM 6327 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
 
a) adrannau 2 - 15
b) Atodlen 1
c) adrannau 16 - 33
d) Atodlen 2
e) adrannau 34 - 40
f) Atodlen 3
g) adrannau 41 - 89
h) Atodlen 4
i) adran 1
j) Teitl Hir