14/01/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 14 Ionawr 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Rhagfyr 2013

NDM5383 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Theuluoedd sy'n ymwneud â diwygiadau i adran 98(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents — Children and Families Bill [HL] 2012-13 to 2013-14 — UK Parliament

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2014

NDM5392 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2013.

NDM5393 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.

NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.

NDM5395 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2013.

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2014

NDM5396 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2014.

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Ionawr 2014

NDM5400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 9 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2014.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5394

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai fod gan bobl sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn yr hawl i wybod pryd y mae'r sawl a ymosododd arnynt yn cael ei ryddhau o gaethiwed, gan gynnwys amodau’r rhyddhau hwnnw, ac y dylai'r hawl hwn gael ei gynnwys yn y Bil arfaethedig, y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.