Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 14 Ionawr 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2014
NDM5630
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2015
Dadl Fer
NDM5663 Lynne Neagle (Torfaen): Pris glo - effaith glo brig yn Farteg a'r goblygiadau i gymunedau y tu hwnt i'r ardal
NDM5664 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflog Uwch Reolwyr, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2014.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2015.
NDM5665 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach tan fis Mawrth 2015;
b) bod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi yn natganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cymorth ardrethi busnes i fusnesau bach.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch a'r gymuned fusnes i greu economi fwy dynamig.
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Ionawr 2015
NDM5666 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Alun Ffred Jones (Plaid Cymru).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Ionawr 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5665
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
y gall prifysgolion chwarae rhan hanfodol yn y broses o greu busnesau newydd gwerth uchel, er enghraifft drwy ychwanegu 261 o gwmnïau deilliedig newydd at economi Cymru yn 2012/13.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
mai Caerdydd yw'r unig ddinas yng Nghymru sydd ymhlith yr 20 o ddinasoedd gorau yn y DU ar gyfer dechrau busnesau newydd.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu opsiynau i sicrhau bod prisiadau ardrethi busnes yn olrhain y farchnad yn fwy cywir ac yn lliniaru ar gynnydd mawr mewn biliau ardrethi yn y dyfodol.
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu olynydd i'r cynllun POWIS i annog gweithio mewn partneriaeth a datblygu cwmnïau deillio yn sefydliadau addysg uwch Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5665
1. Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu'r cynllun cyfredol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach am flwyddyn arall.
2. Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y meini prawf cymhwyster ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o fis Ebrill 2015 ymlaen i gyrraedd pob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.