14/10/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 14 Hydref 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Hydref 2015

Dadl Fer

NDM5844 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Diogelu cleifion yn Sir Benfro - pam mae angen gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg

NDM5842 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Dlodi yng Nghymru: tlodi ac anghydraddoldeb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2015.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2015.

NDM5843 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Medi 2015

NDM5832

Mick Antoniw (Pontypridd) R

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; a

2. Yn credu:

a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;

b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a

c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Bil Undebau Llafur ar gael yn: http://services.parliament.uk/bills/2015-16/tradeunion.html (Saesneg yn unig)

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1998/42/contents (Saesneg yn unig)

Mae confensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol ar gael yn:  http://www.ilo.org/global/standards/introduction-to-international-labour-standards/conventions-and-recommendations/lang--en/index.htm (Saesneg yn unig)

Cefnogir gan:

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Eluned Parrott (Canol De Cymru)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

David Rees (Aberafan)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Gwenda Thomas (Castell-nedd)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jeff Cuthbert (Caerffili)

Lynne Neagle (Torfaen)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Keith Davies (Llanelli)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Sandy Mewies (Delyn)

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Hydref 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5843

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru yn ddiweddar.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda banciau manwerthu mawr i annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a sicrhau presenoldeb bancio lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5843

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n cynnig cyllid mwy hygyrch ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd ffermydd Cymru.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud yn gynnar.