Motions and Amendments for Debate on 15 March 2011
Cynnig a gyflwynwyd ar 01 Mawrth 2011
NDM4680 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Mesur Seneddol ynghylch Diogelu Rhyddidau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/protectionoffreedoms/documents.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2011
NDM4686 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Bwrsari Addysg Uwch) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2011.
NDM4687 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau dementia a amlinellir yn Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia – Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia
.
Anfonwyd copi o Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia – Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia at Aelodau’r Cynulliad drwy’r e-bost ar 8 Mawrth 2011.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Mawrth 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4687
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg cerrig milltir clir ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng Ngweledigaeth Cymru ar Ddementia – Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos yn glir yr amserlenni ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau yng Ngweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia – Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia.
3. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder mai dim ond traean o bobl â dementia sy'n cael diagnosis ffurfiol;
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi mwy o gefnogaeth i alluogi pobl a dementia i aros yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser.