Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Mawrth 2011
Cynigion a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2011
Dadl Fer
NDM4688 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): S4C- Fe fydd y chwyldro ar y teledu
NDM4689 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Chwefror 2011.
NDM4690 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Chwefror 2011.
NDM4691 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Chwefror 2011.
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2011
NDM4692 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 35.2 yn:
1. Ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Adolygiad o Reolau Sefydlog wrth baratoi ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2011;
2. Cymeradwyo’r cynnig i ail-wneud y Rheolau Sefydlog, fel y’i nodir yn Atodiad 4 o adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 5 Mai 2011.
NDM4693 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar ymchwiliad i bolisïau Cynllunio yng Nghymru , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2011.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2011.
NDM4694 Gareth Jones (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Yr agenda wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2011.
Nodyn: Ymateb y Gweinidog dros a'r y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2011.
NDM4695 Darren Millar (Clwyd West)
Yn unol â pharagraff 14(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penodi Archwilydd Cyffredinol yr Alban yn archwilydd i gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 – 2011, yn unol â’r telerau yn y Memorandwm dyddiedig 9 Mawrth 2011 y cytunwyd arnynt gan yr Archwilydd Cyffredinol yr Alban a’r Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae copi o’r Memorandwm y cytunwyd arnynt gan yr Archwilydd Cyffredinol yr Alban a’r Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ei gylchlythyru ar 9 Mawrth 2011.
NDM4696 Peter Black (Gorllewin De Cymru) TYNNWYD YN ÔL
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) Sicrhau y cynigir gwybodaeth am y rhaglen i'r rheini sy'n gymwys i gymryd rhan yng nghynllun y Fargen Werdd ;
b) Sicrhau bod pobl sy'n ymuno â rhaglenni tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru naill ai yn dlawd iawn o ran tanwydd neu'n byw mewn ardaloedd nad ydynt ar y grid nwy;
c) Cyflawni 12,000 o gartrefi cynhesach ychwanegol drwy ddyblu'r arian sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi tanwydd; a
d) Darparu data cywir ar dlodi tanwydd ar gyfer cynllunio a sicrhau bod gwybodaeth dda ar gael ar draws y sector cyhoeddus ac i ddefnyddwyr.
Mae modd gweld Cynllun y Fargen Werdd drwy ddilyn y ddolen isod:
http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/what_we_do/consumers/green_deal/green_deal.aspx
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2011
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4696
1. Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r Siarter Tlodi Tanwydd.
Gellir gweld copi o’r Siarter Tlodi Tanwydd yn:
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddileu tlodi tanwydd ac yn croesawu:
a) Bod £86.5m wedi’i wario ar y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ers 2007 a bod y buddsoddiad mewn rhaglenni tlodi tanwydd wedi’i warchod hyd yn oed o fewn y setliad ariannol tynn hwn,
b) Cyflwyno’r Rhaglen Tlodi Tanwydd newydd ar gyfer Cymru gyfan o 1 Ebrill ymlaen, sydd â’r nod o roi cyngor neu i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn oddeutu 15,000 o aelwydydd y flwyddyn, gan gynnwys eiddo anodd ei drin ac eiddo nad yw ar y grid nwy,
c) Yr ymrwymiad i ddatblygu gwell data ar dlodi tanwydd, ac adrodd arno’n amlach,
d) Y buddsoddiad mewn cyngor a chefnogaeth ehangach ar effeithlonrwydd ynni drwy’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a’r Ymddiriedolaeth Garbon, a’r ymwneud â’r gwaith o ddatblygu Bargen Werdd Llywodraeth y DU,
e) Y 28 o brosiectau arbed sy’n cael eu gweithredu ar draws Ardaloedd Adfywio Cymru ar hyn o bryd, y mae dros 6,000 o aelwydydd yn manteisio arnynt, bod y £30m a fuddsoddwyd yn arbed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi denu cyllid atodol sylweddol o ffynonellau eraill a bod y cynlluniau i gyflwyno cam 2 arbed yn 2011/12 yn mynd rhagddynt yn dda.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dlodi Tanwydd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/energy/fuelpoverty/?skip=1&lang=cy