16/03/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 09/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/03/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 16 Mawrth 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2016

Dadl Fer

NDM6008 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Caerfyrddin 1966 a 2016: 50 mlynedd sydd wedi newid Cymru

Hanes datganoli ers 1966 a'r potensial i greu llywodraeth ddatganoledig yn y dyfodol a fydd yn darparu gwasanaethau ardderchog

NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

NDM6007 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad. 

NDM6010 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick Evans yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016.

NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion gofal cymhleth;

2. Yn nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016;

3. Yn nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon teulu;

b) gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol;

c) adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion;

d) gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol;

e) adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a

f) gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn.

NDM6012 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru - a Rheol Sefydlog 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 a 30A, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM6013 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM6014 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26A – Biliau Preifat a Rheol Sefydlog 26B – Biliau Hybrid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26A a chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 26B, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2016

NDM6015 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 10 Mawrth 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6011

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu, a sicrhau bod y rotas hyfforddiant i feddygon teulu yn cwmpasu ardaloedd gwledig a difreintiedig er mwyn cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i feddygon teulu sy'n ymarfer yn yr ardaloedd hynny.