16/04/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Ebrill 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 2013

NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2012-13/childrenandfamilies.html

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Ebrill 2013

NDM5197 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

Gosodwyd Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Tachwedd 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymundeau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2013.

NDM5198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Gosodwyd Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Trawsblannu Dynol (Cymru)gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2013.

NDM5200 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

NDM5201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2013.

Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Ebrill 2013

NDM5207 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Gwyn Price (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mak Drakeford (Llafur Cymru), a;

2. Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.