Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Hydref 2007
Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2007
NDM3686
Carwyn Jones (Bridgend)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth iddynt arfer ei swyddogaethau a bod gwneud hyn yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
2. Yn nodi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithredu'r ddyletswydd hon a'i bwriad i:
a) comisiynu adolygiad annibynnol er mwyn gweld i ba raddau y mae'r weledigaeth yn y Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi ei gwireddu (yn unol ag adran 79(7)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006); a
b) paratoi Adroddiad Blynyddol am Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer 2006/07 i'w gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol erbyn diwedd 2007.
3. Yn nodi y bydd cyfle, ar ôl i'r adolygiad ffurfiol gael ei gwblhau, i adolygu neu i ail-wneud y cynllun datblygu cynaliadwy ac i ddatblygu camau i'w roi ar waith.
Mae'r Cynllun Datblygu Cynaliadwy i'w weld ar y Rhyngrwyd drwy'r hyperddolenni isod:
Saesneg h
ttp://new.wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/susdevactionplan/?lang=en
.
Cymraeg h
ttp://new.wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/susdevactionplan/?lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2007
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3686
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn mynegi pryder difrifol am lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael i wireddu’r weledigaeth o ddyfodol cynaliadwy ac yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu pecyn arfarnu carbon i helpu i wneud gwario’n effeithiol.