16/10/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 16 Hydref 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 18 Gorffennaf 2013

NDM5299 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Bethan Jenkins gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.

Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-055.htm

Cynigion a gyflwynwyd ar 3 Hydref 2013

NDM5325 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.

Cefnogwyd gan:

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynigion a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2013

Dadl Fer

NDM5330 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Awtistiaeth: Yr angen am ddiagnosis amserol yng Nghymru

NDM5328 David Rees (Aberafan)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2013.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

NDM5329 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 ac 20:

(a) fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; a

(b) fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2014.

NDM5332 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 4(1) a 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

1. Yn penodi Isobel Garner, Peter Price, David Corner, Christine Hayes a Steven Burnett yn aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru; a

2. Yn penodi Isobel Garner yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

NDM5333 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 7(1) a 7(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013:

1. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £25,000 y flwyddyn i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a

2. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £12,500 y flwyddyn i aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru.

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

NDM5334 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod, yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11.