17/10/2007 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 17 Hydref 2007

Dadl Fer

NDM3687

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Ymyleiddio Pobl Ifanc.

NDM3690

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Er mwyn cynyddu lefel Gwerth Ychwanegol Crynswth yng Nghymru, cred y Cynulliad Cenedlaethol bod rhaid datblygu economi seiliedig ar wybodaeth arbennig o arloesol, a chyda sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf.

NDM3688

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnogi ail-agor Gorsaf Carno.

NDM3689

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gynnal astudiaeth annibynnol bellach o effeithiau carthu tywod yn Sianel Bryste ar draethau’r De Orllewin.

NDM3685

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:

Yn cytuno y caiff Jonathan Morgan gyflwyno gorchymyn arfaethedig i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 3 Hydref 2007 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol:

h

ttp://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/business-legislative-competence-orders-lco-045.htm

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2007

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3690

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gryfhau cefnogaeth ar gyfer dysgwyr rhan amser a dysgwyr sy’n oedolion i helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau o’r radd flaenaf.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Hydref 2007

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3688

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

a phennu dyddiad ar gyfer ailagor yr orsaf hon.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

a sicrhau y bydd ‘mynediad i bobl anabl’ ym mhob ardal gyhoeddus o’r orsaf hon.

3. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu popeth ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol:” ac yn ei le rhoi:

1. Yn nodi'r gefnogaeth i ail-agor Gorsaf Carno.

2. Yn cydnabod  ymrwymiad cryf Llywodraeth y Cynulliad i Linell Rheilffordd  y Cambrian;

3. Yn croesawu’r cyllid gwerth £13.4 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar 8 Awst 2007 ar gyfer gwella’r llinell;

4. O’r farn bod dyfodol y llinell wedi’i ddiogelu gan y buddsoddiad hwn, a fydd yn gwella dibynadwyedd ac yn creu’r cyfle am fwy o welliannau i wasanaethau, ac o’r farn y dylai unrhyw ddatblygiadau pellach i’r seilwaith fod yn seiliedig ar achos busnes cadarn.

NDM3689

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd i gomisiynu monitro gweithrediadau carthu cyfredol yn Sianel Bryste, ond i’r sefydliadau carthu dalu am hynny.