17/11/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 17 Tachwedd 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 10 Tachwedd 2015

NDM5873 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.

'Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 11 Tachwedd 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5873

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol o Gomisynydd Plant Cymru gan Dr Mike Shooter y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros benodi a chyllido y comisiynydd plant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

'Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Tachwedd 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5873

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 16 Tachwedd 2015

NDM5882 Lesley Griffiths (Wrexham)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

'Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3'