Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 18 Mawrth 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2009
NNDM4153 Jenny Randerson (Canol Caerdydd) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Jenny Randerson gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog Rhif 22.48, a Memorandwm Esboniadol. Gellir gweld y Gorchymyn arfaethedig amlinellol a’r Memorandwm Esboniadol trwy ymweld â’r ddolen ganlynol: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/busnes-gorchmynion-cymhwysedd-deddfwriaethol-balot-26-06-07/lco-077.htm
Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2009
Dadl Fer
NDM4179 Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Sut y gallwn ddileu masnachu mewn cŵn bach a ffermydd cŵn bach?
NDM4180 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r angen i siapio rhaglen cyfalaf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn helpu i liniaru effaith yr argyfwng economaidd ar Gymru.
NDM4181 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu ei strategaeth trafnidiaeth gyda golwg ar roi blaenoriaeth uwch i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4180
1. Peter Black (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ei phroses caffael yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn iddynt allu rhoi cynnig am brosiectau cyfalaf.
2. Peter Black (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai prosiectau cyfalaf ysgolion ac ysbytai gael blaenoriaeth uwch na phrosiectau cyfalaf yn ystad Llywodraeth Cynulliad Cymru.
3. Peter Black (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymo i gynyddu faint o gyfalaf sydd ar gael i'w wario drwy weithio mewn partneriaeth gyda'r sector preifat a'r trydydd sector ar draws pob portffolio.
4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi’r gorau i’r prosiect i uwchraddio ei phencadlys ym Mharc Cathays, a allai gostio £42 miliwn i’r pwrs cyhoeddus.
NDM4181
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i beidio â chefnogi datblygu Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch llwybrau di-draffig.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2009
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i Gynigion:
NNDM4181
1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu “galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu” a rhoi yn ei le “nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adolygu”.