18/03/2014 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 18 Mawrth 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Mawrth 2014

NDM5462 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grwp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

Mae’r Adroddiad ar gael ar y ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/localgov/140305-expert-group-report-cy.pdf

NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Mae manylion Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru i’w gweld yn:

http://wales.gov.uk/legislation/programme/?lang=cy

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 March 2014

NDM5471 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Ffred Jones (Plaid Cymru) yn aelod o, ac yn Gadeirydd i, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5462

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i annog amgylcheddau gwaith sy'n ystyriol o deuluoedd, ac ystyried canfyddiadau'r adroddiad ynghylch argaeledd gofal plant, amser cyfarfodydd ac awyrgylch cyfarfodydd cyngor.

NDM5463

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer y biliau fframwaith sy'n cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer yr achlysuron lle y mae proses ddeddfwriaethol safonol y Cynulliad wedi cael ei chwtogi.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y duedd ddiweddar o ran biliau fframwaith, a deddfwriaeth llwybr carlam a deddfwriaeth frys, sy'n tanseilio'r gallu i graffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth ac i sicrhau atebolrwydd democrataidd cryf.

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno bil ar anghenion addysgol arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5463

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.