18/11/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 18 Tachwedd 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 11 Tachwedd 2008

NDM4056

Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.6:

Yn nodi’r gyllideb ddrafft ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2009-2010 a 2010-2011 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7 Hydref 2008.

NDM4057

Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i hwyluso datblygiad cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.

Amendments tabled on 13 November 2008

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2008

To propose that the Assembly resolves to adopt the following amendments to motions:<\}100\{>Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4056

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ddiffyg cefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol.

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailddrafftio'r gyllideb hon er mwyn trosglwyddo'r codiad a gafodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y grant bloc i lywodraeth leol.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn methu â rhoi sylw i’r pwysau ariannol sy’n deillio o gostau ynni uwch a’r dirywiad economaidd.<0\}

4. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r setliad i Lywodraeth Leol er mwyn atal codiadau sylweddol yn y dreth gyngor a lleihad mewn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen.

5. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn derbyn y bydd setliad y gyllideb ddrafft yn gwaethygu’r bwlch ariannu mewn addysg uwch rhwng prifysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr.

6. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried ffrydiau ariannu eraill, gan gynnwys y sector preifat, er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen a buddsoddiadau cyfalaf.

7. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod lefel y cyllid cyfalaf ar gyfer y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartrefwedi cael ei gwtogi mewn termau real dros y tair blynedd nesaf.

8. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fydd y gyllideb ddrafft yn rhoi sylw i raddfa’r argyfwng tai yng Nghymru.

9. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd y cynnydd isel yng nghyllideb y portffolio Economi a Thrafnidiaeth yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymateb i’r argyfwng economaidd.

10. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu ar ôl naw cyllideb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mai Cymru yw rhan dlotaf y DU o hyd.

NDM4057

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod mentrau cymdeithasol yn cyfuno disgyblaeth busnesau preifat gyda’r sector cyhoeddus.