Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2010
NNDM4420 Leighton Andrews (Rhondda Cynon Taff)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Addysg) 2010 gerbron y Cynulliad ar 27 Ionawr 2010.
NNDM4421 Alun Ffred Jones (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Diwylliant a Meysydd Eraill) 2010.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2010;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4 ar y Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Diwylliant a Meysydd Eraill) 2009 gerbron y Cynulliad ar 6 Tachwedd 2009.