19/03/2013 - Cynigion a Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 19 Mawrth 2013

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Mawrth 2013

NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.

Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2013 ac mae ar gael drwy’r linc a ganlyn:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=243903&ds=3/2013

NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

NDM5191 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2013.

NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.

NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.

E-bostiwyd crynodeb o’r ymatebion i’r papur ymgynghori: Llais i Gleifion yng Nghymru i Aelodau’r Cynulliad ar 12 Mawrth 2013 ac mae ar gael drwy’r linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/voice/?skip=1&lang=cy

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2013

NDM5196 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur Cymru).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Mawrth 2013

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5189

1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai “Presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd.

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau a roddwyd i ysgolion er mwyn sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i dargedu’r cyfraddau uchel o absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, er mwyn codi lefelau cyflawniad disgyblion o gefndiroedd tlotach gymaint â phosibl.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu meincnodau a thargedau cenedlaethol i fonitro'r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.

9. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r 'disgyblion mwy galluog a thalentog yn cyflawni gystal yng Nghymru ag yn Lloegr', yn ôl yr adroddiad.

10. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi cryn bryder bod angen gwella safonau llythrennedd dros hanner yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad.

11. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.

12. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog y Gweinidog i egluro sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr adroddiad hwn gan gorff hyd braich annibynnol.

13. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r methiannau yn system addysgol Cymru a nodwyd gan Estyn.

NDM5193

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned’ a rhoi yn ei le ‘ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn eu cynorthwyo’

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai aelodau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sydd yn y sefyllfa orau i benodi eu Cadeirydd, yn hytrach na Gweinidogion Cymru.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r canllawiau ynghylch rôl Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn ‘llais i gleifion’ yn y broses o ad-drefnu gwasanaethau.

4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned, yn seiliedig ar fodel yr Alban, er mwyn gwella rôl Cynghorau Iechyd Cymuned o ran sicrhau bod safbwyntiau'r cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol am ein GIG.

Gellir gweld Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned Gweithrediaeth yr Alban drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.scdc.org.uk/what/national-standards/

7. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi ei phenderfyniad i sefydlu Powys fel Cyngor Iechyd Cymuned unedig, a fyddai'n peryglu'r gallu i ymgysylltu'n effeithiol â chleifion a'r cyhoedd ym Mhowys. TYNNWYD YN ÔL