Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Ionawr 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Ionawr 2009
NDM4107
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Gorchymyn Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y D.U. ystyried darpariaethau Mesur Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu o ran deisebau at awdurdodau lleol, i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Ionawr 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu ewch i:
http://www.publications.parliament.uk/pa/ld200809/ldbills/002/09002.i-v.html
NDM4108
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai) 2009.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Ionawr 2009;
Gosodwyd adroddiadau’r Pwyllgor ar y Gorchymyn arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy gerbron y Cynulliad ar 18 Ebrill 2008 a 17 Gorffennaf 2009
NDM4109
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi hynt y gwaith dros y 12 mis diwethaf o weithredu strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gamddefnyddio sylweddau.
Cewch afael ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau drwy ddilyn y ddolen hon:
http://cymru.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/publications/strategy0818/?lang=cy
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4107
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oes mecanwaith ar gyfer cydlynu deisebau a dderbynnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol fel bo’r sefydliad mwyaf priodol yn gallu eu hystyried.
NDM4108
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r gorchymyn drafft yn llwyddo i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru.
NDM4109
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’r bylchau anferth mewn darpariaeth ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r ffordd y mae’n casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth am gamddefnyddio sylweddau.
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer y lleoedd adsefydlu preswyl a dibreswyl.