Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 20 Mawrth 2012
Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2012
NDM4941
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012.
NDM4942
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.
Mae agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd – Gwyddoniaeth i Gymru i’w gweld ar y ddolen hon:
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/csaw/publications/120312sfw/?skip=1&lang=cy
NDM4943
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth ac mae ar gael drwy’r ddolen a ganlyn:
http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4942
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion.
NDM4943
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’ awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.
5. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol, yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol.
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r afael â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'.
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn anghyson.
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015.