20/05/2015 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 13/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/05/2015

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 20 Mai 2015

Cynigion a gyflwynwyd ar 13 Mai 2015

 

Dadl Fer

NDM5766 Keith Davies (Llanelli)

Ysgogi'r economi yng ngorllewin Cymru.

Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf.

 

NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mai 2015.

 

NDM5764 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2015.

 Sylwer: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 13 Mai 2015.

 

NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;

2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Mae'r adroddiad gan yr Athro Dylan Jones-Evans ar gael yn: http://gov.wales/topics/businessandeconomy/policy/access-to-finance/?lang=cy

Mae 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' ar gael yn: http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/invest_wales_final.pdf

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Mai 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5765

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i:

a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth;

b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi; ac

c) ariannu prosiectau seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 15 Mai 2015

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5765

1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ym mhwynt 1, dileu 'nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a'. TYNNWYD YN ÔL

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'.