Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 21 Mai 2013
Cynigion a gyflwynwyd ar 14 Mai 2013
NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 16 Mai 2013
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5243
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng Nghymru.
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi werdd.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol glir ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.
5. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda chanlyniadau y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
6. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Coleg Adeiladu Sgiliau Gwyrdd i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth.
7. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ‘trywydd’ a chynllun gweithredu, gyda thargedau cynhyrchu, ar gyfer pob math o ynni adnewyddadwy.
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer twf economaidd.
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd.
11. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i fonitro cynnydd twf gwyrdd yng Nghymru, er enghraifft:
1. Diweddaru ffigurau Gwerth Ychwanegol Crynswthbob chwarter
2. Ystadegau busnes sy’n canolbwyntio ar gategorïau craidd yn Rhaglen Adnewyddu'r Economi
3. Ystadegau cyflogaeth yn y gweithle ar gyfer yr economi werdd.